Chwarae Criced ym Mhorthaethwy

Cyswllt allweddol: Robbie Jones

Ffôn symudol cyswllt: 07876 792 004

E-bost: robbiejones25@hotmail.co.uk OR info@menaibridgecricketclub.com

Mae Clwb Criced Porthaethwy wedi cael ei gynnwys yn y llyfr ‘Remarkable Village Cricket Grounds’, oherwydd y wiced o safon uchel, tiroedd hyfryd a golygfeydd godidog o’r Wyddfa a’r Fenai.

Am y rheswm hwn, mae'r maes  yn cael ei ddefnyddio fwyfwy gan dimau criced teithiol sydd yn dymuno chwarae yn erbyn CCP a chwarae gemau criced cynrychioliadol. Gyda'r cyfleusterau newydd gwell dan do ac awyr agored ar y maes, mae CCP  yn lle deniadol iawn i chwarae criced, hyd at y lefel uchaf.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am ein cyfleusterau neu archebu ymweliad, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion uchod.

Yn yr un modd, os hoffech chi ddarganfod mwy neu gael sgwrs am ddefnyddio'r maes criced neu chwarae timau Porthaethwy, defnyddiwch y manylion cyswllt uchod.