Dynamos
CRICED 'DYNAMOS' (8-11 oed)
Prif gyswllt: Robbie Jones
Ffôn symudol cyswllt: 07876 792 004
E-bost: robbiejones25@hotmail.co.uk
Pryd: Dydd Gwener 18.30 i 19.30 (Mai i Awst)
Beth yw Criced Dynamos?
Mae Criced 'Dynamos' yn gam nesaf gwych i bawb sy’n graddio o griced 'All Stars' ac yn gyflwyniad perffaith i bob plentyn 8-11 oed sy’n newydd i’r gamp. Mae 'Dynamos' yn ymwneud â hwyl ac mae'n rhoi mwy o ffocws i blant ar ddatblygu'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i chwarae criced. Bydd y sesiynau'n parhau drwy'r haf o fis Mai i fis Awst. Mae croeso i rieni fwynhau lluniaeth yn y clwb tra bod eu plant yn mwynhau eu criced.
Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw edrych fel arwyr y gêm, felly bydd pob plentyn sy'n cofrestru yn derbyn eu crys-t New Balance Criced 'Dynamos' eu hunain, wedi'i bersonoli â'i enw a'i rif.
Sut?
Os oes gennych chi ddiddordeb i'ch plentyn gymryd rhan yn y rhaglen, cofrestrwch yma. (Bydd hwn yn fyw o'r Pasg ar gyfer y tymor newydd).
Eisiau mwy o wybodaeth?
Os hoffech ddarllen mwy am Criced Dynamos, ewch i wefan Criced Cymru yma neu cysylltwch â Robbie Jones gan ddefnyddio'r manylion uchod.