Polisi Iaith Gymraeg

Clwb Criced Porthaethwy - Polisi Iaith Gymraeg

Gweledigaeth

Mae Clwb Criced Porthaethwy wedi ymrwymo i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar bob lefel o’r clwb, gyda’r nod o hyrwyddo clwb criced dwyieithog bywiog. Rydym yn llwyr gefnogi Strategaeth Cymraeg 2050 sy’n nodi dull hirdymor Llywodraeth Cymru o gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae darparu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a chwaraeon yn rhan hanfodol o’r daith hon. Credwn y gallwn ni fel Cyngor Cymuned Porthaethwy chwarae rhan bwysig wrth gefnogir strategaeth hon yn Ynys Môn.

Egwyddorion:

Mae’r ymrwymiad hwn yn cynnwys:

  • Byddwn yn cynyddu'r cynnwys dwyieithog ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
  • Byddwn yn cyfathrebu; n ddwyieithog gyda'n rhieni iau ar grwpiau whats app.
  • Byddwn yn annog defnydd o'r Gymraeg gan ein hyfforddwyr, ein haelodau iau ac oedolion.
  • Byddwn yn hyrwyddo awyrgylch ddwyieithog yn y clwb lle mae arwyddion gweledol a hysbysiadau i'w gweld yn y ddwy iaith gyda'r Gymraeg yn gyntaf.
  • Byddwn yn sicrhau bod pob dogfen bwysig, megis ffurflenni aelodaeth, ar gael yn y ddwy iaith.
  • Byddwn yn annog ein hyfforddwyr i ddefnyddio'r ddwy iaith yn ystod sesiynau hyfforddi a gemau criced gyda'n haelodau iau lle bo hynny'n bosibl. Dylai hyfforddwyr hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg cymaint â phosibl.
  • Byddwn yn cefnogi Criced Cymru i weithio’n frwd gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol eraill Cymru, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr a phartneriaid a rhanddeiliaid eraill i gyflawni ein huchelgeisiau a’n nodau o ran ein defnydd a’n hyrwyddiad o’r Gymraeg.

Dogfennau a Gwybodaeth

Bydd Clwb Criced Porthaethwy yn parhau i gynhyrchu fersiynau Cymraeg o ddogfennau allweddol, perthnasol a gwybodaeth lle bo'n briodol.

Byddwn yn gweithio gyda Criced Cymru i sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol yn cael eu darparu ac ar gael yn Gymraeg.

Cyfathrebu

Bydd Clwb Criced Porthaethwy yn ymateb yn Gymraeg wrth ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg neu pan fydd wedi derbyn cais i wneud hynny.

Mae Clwb Criced Porthaethwy yn croesawu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein holl gyfathrebu gan ein pwyllgor, aelodau, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a rhieni.

Nawdd a hysbysebu

Bydd nawdd, hysbysebu a deunydd hyrwyddo lleol yn cael eu cynhyrchu naill ai yn Gymraeg neu ddwyieithog fel y bernir yn briodol.

Hyfforddwyr a gwirfoddolwyr

Rydym yn gefnogol iawn i’n hyfforddwyr a’n haelodau sy’n mynegi diddordeb mewn dysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg, a byddwn yn eu cyfeirio at arweiniad pellach i gael cefnogaeth.

Cefnogaeth a gweithrediad lefel uwch

Maer polisi hwn wedi i gytuno 'n ffurfiol gan Bwyllgor Clwb Criced Porthaethwy

Bydd y polisi hwn ar gael i'n staff, pwyllgor, aelodau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr a’r cyhoedd ei ddarllen a bydd yn cael ei adolygu’n flynyddol.

Dogfen i’w hadolygu yn flynyddol