Croeso'r Cadeirydd
Neges groeso gan Robbie Jones
Dyma fy mhedwaredd flwyddyn fel Cadeirydd, a chymerais yr awenau gan fy nhad a oedd yn Gadeirydd am dros 20 mlynedd. Mae'n anrhydedd bod yn rhan o'r clwb gwych hwn sy'n rhan enfawr o fy mywyd a fy nheulu.
Rydw i wedi chwarae ac wedi bod yn rhan o'r clwb am y rhan fwyaf o fy mywyd. Yn gyntaf fel chwaraewr iau, deuddeg mlynedd yn gapten tîm cyntaf, rwyf wedi bod yn perthyn i'r pwyllgor ers pan oeddwn yn bedair ar ddeg a nawr rwy'n Gadeirydd. Rwy'n parhau i chwarae yn y tîm cyntaf ac yn hyfforddi gwahanol dimau iau.
Mae wedi bod yn anhygoel bod yn rhan o'r clwb pentref bach hwn a gweld pa mor bell y mae wedi dod. Yn 2005 roedd adeiladu'r clwb yn gam enfawr a oedd yn cyd-fynd â datblygu'r timau hŷn ac iau. Roedd angen gwell cyfleusterau arnom yn ddirfawr. Wrth edrych yn ôl, ni feddyliais erioed y byddem yn tyfu'n rhy fawr i'r clwb, ond dyma ni'n ailddatblygu'r cyfleusterau a'r tiroedd gyda buddsoddiad sylweddol o £500k+. Bydd hyn yn diogelu'r clwb ar gyfer cenedlaethau'r gymuned a chefnogwyr criced.
Mae Clwb Criced Porthaethwy nid yn unig yn faes bendigedig gyda golygfeydd godidog; mae ganddi hefyd awyrgylch bywiog lle rydym yn croesawu gwesteion ac aelodau ac yn glust i wrando. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb yn ôl yn ystod Gwanwyn 2025.
Dewch i ymweld, dewch i chwarae, dewch i ddefnyddio ein cyfleusterau rhagorol.
Robbie Jones, Cadeirydd