Tîm XI Cyntaf

Tîm Hyfforddi:  Paddy Glover, Robbie Jones, Gethin Roberts

Cyswllt allweddol: Paddy Glover

Ffôn symudol cyswllt: 07548 352 681

E-bost: pglover314@gmail.com

Capten:  Ashley Wood                                       

Ffôn symudol cyswllt: 0766 552 538

E-bost: woodylfc@live.co.uk

Is-gapten:  Jac Gwyr                                           

Ffôn symudol cyswllt: 07532 449 422

E-bost: jackgower19@gmail.com

 

Prif Noddwr: Grŵp AMOS      

Hyfforddiant - Tymor y Gwanwyn/Haf: Dydd Mawrth 6.00-7.45pm (Ebrill i Medi)

Hyfforddiant - Tymor y Gaeaf dan do: Dydd Iau 6.15pm (Chwefror i Ebrill)

Cliciwch yma ar gyfer gemau'r tymor hwn ( yn cael ei weithredu a'i ddiweddaru'n aml gan Play Cricket )

Unwaith y byddwch ar wefan Play Cricket, rydym yn eich cynghori i lawrlwytho'r ap, rhad ac am ddim er mwyn cael mynediad at yr ystod lawn o gemau a sgoriau, gan gynnwys rhestr gemau'r tymhorau hwn. Yna gallwch hefyd wylio criced byw a gweld dadansoddiad gwych o'r chwarae, sgoriau ac ystadegau.

Rydym hefyd yn postio newyddion a gemau yn rheolaidd i sianeli cyfryngau cymdeithasol y clwb, felly dilynwch ni, hoffwch a gwnewch sylw.

Cliciwch yma i brynu cit .

Sylwch nad oes disgwyl i chi wisgo cit MBCC ar gyfer hyfforddiant cychwynnol neu sesiynau blasu

Gwybodaeth am y tîm

Wedi ei sefydlu pan sefydlwyd y clwb yn 1961, mae Clwb Criced Porthaethwy (CCP) wedi mynd o nerth i nerth!

Rydyn ni'n chwarae ar ddydd Sadwrn yn Uwch Gynghrair Gogledd Cymru, sy'n cynnwys 10 o glybiau gorau Gogledd Cymru, gyda gemau yn rhedeg o fis Ebrill i fis Medi. Rydym yn chwarae gartref ac oddi cartref yn erbyn clybiau  yng Ngogledd Cymru gan gynnwys Bangor, Llandudno, Llanelwy, a chyn belled i'r Dwyrain ag ardal Wrecsam.

Ers ymuno â’r Uwch Gynghrair yn 2005, rydym wedi ennill y teitl yn 2014, 2015, 2018 a 2022. Fel yr unig glwb criced sydd ar ôl ar Ynys Môn, rydym yn cynnig y safon orau o griced sydd ar gael i bobl leol yr ynys a’r cyffiniau.

Rydym hefyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth T20 Uwch Gynghrair Gogledd Cymru, ac wedi ennill y gystadleuaeth sawl gwaith, gan fynd ymlaen i gynrychioli Gogledd Cymru ar lefel ranbarthol.

Mae gennym gymysgedd dda o brofiad, ieuenctid a thalent yn y tim ac yn cynnig cyfle i chwaraewyr ifanc gyda photensial mawr i ddatblygu i fod yn gricedwyr gwych mewn amgylchedd tîm cryf. Mae nifer o’n chwaraewyr wedi cynrychioli Gogledd Cymru, gan gystadlu ar lefel uwch ac adeiladu cysylltiadau gyda chwaraewyr eraill o glybiau Gogledd Cymru. Os ydych chi eisiau chwarae criced o'r safon orau yng Ngogledd Cymru a chael amser gwych, ni yw'r tîm i chi.

 

Mae pawb yn mwynhau cwmni ei gilydd ac mae yna gyloedd gwych i gymdeithasu  yn ystod y tymor criced a'r gaeaf hefyd, sydd yn cadw'r ymdeimlad o undod. Mae gan sawl chwaraewr aelodau teulu a phlant yn chwarae yn y clwb mewn timau eraill, gan gefnogi ein hethos teuluol cryf. Mae yna  noson hyfforddiant Iau, All Stars a Dynamos  llwyddiannus iawn  yn y clwb.

Os hoffech ymuno â ni neu gael sgwrs, yna cysylltwch â'r hyfforddwyr, capten neu'r clwb gan ddefnyddio'r manylion uchod.