Hanes y Clwb
Wedi'i sefydlu yn 1973, mae gan Glwb Criced Porthaethwy bedwar tîm oedolion, tîm merched a thimau iau ar gyfer bechgyn a merched rhwng 8 a 15 oed. Mae croeso i bob oed, gallu a lefel sgiliau.
Mae gan y clwb hanes hir a llwyddiannus mewn criced fel enillwyr Uwch Gynghrair Gogledd Cymru 2014, 2015, 2018 a 2021. Ein nod yw cadw a datblygu chwaraeon ar yr ynys, gan ddod â theuluoedd a chymunedau ynghyd.
Mae gan y clwb olygfeydd godidog dros y Fenai a mynyddoedd Eryri. Daw chwaraewyr, ymwelwyr ac aelodau o bob rhan o Ogledd Cymru, gan mai dyma’r unig glwb criced sydd ar ôl ar Ynys Môn. Mae'r elfen gymdeithasol yn bwysig i'r clwb a rhaglen sydd yn ymgysylltu â’r gymuned.
Mae’n hwb cymunedol ffyniannus gyda dros 550 o aelodau, partneriaid a noddwyr. Mae’n cael ei ddefnyddio’n aml yn ystod y tymor criced a thu hwnt, ar benwythnosau a chanol yr wythnos, gan dros 30+ o wahanol sefydliadau, ysgolion/darparwyr addysg, clybiau, preswylwyr, busnesau. a grwpiau cymunedol.
Mae'r clwb yn cael ei ailddatblygu ar hyn o bryd i wella ac ymestyn y cyfleusterau, gan greu mwy o gapasiti a lle, yn enwedig dan do. Bydd yn dod yn fwy cynhwysol i ddefnyddwyr sydd ag ystod amrywiol o anghenion trwy wella mynediad hefyd. Bydd y gegin, ardaloedd cymdeithasu, cyfleusterau newid a thoiled yn cael eu trawsnewid. Tra bydd ymestyn y cyfleusterau awyr agored, mannau cysgodol a theras yn sicrhau bod y lleoliad yn gallu darparu ar gyfer pob tywydd.
Mae'r clwb eisoes yn cynnig cyfleusterau parcio a chyswllt wi-fi am ddim. Mae'r rhan fwyaf o gemau criced gartref yn cael eu sgrinio'n fyw, a bydd y bar trwyddedig poblogaidd wrth gwrs yn aros (ac yn cael ei ymestyn). Mae yna hefyd lwybrau newydd er mwyn hwyluso mynediad i bobl anabl a phramiau, mynediad i gât i gerddwyr a gwell goleuadau allanol. Mae trydedd rhwyd griced awyr agored wedi'i hychwanegu, gyda'r rhwydi ac arwyneb y ddaear i gyd wedi'u hadnewyddu.
Ffurfiwyd cynlluniau i ailddatblygu'r clwb yn dilyn ymgynghoriad cymunedol helaeth. Cymerodd dros 650 o bobl leol, busnesau a grwpiau cymunedol ran yn 'Arolwg Anghenion Cymunedol 2022'. Gwrandawodd y clwb ar anghenion yr ymatebwyr a chreu'r cynllun yn unol â hynny. Mae'n galonogol y gall y clwb chwarae mwy o ran wrth ddarparu cyfleusterau gwych dan do ac awyr agored wrth symud ymlaen.
Bydd y clwb yn datblygu i fod y 'lle' i gynnal dathliadau teuluol, partïon, cyfarfodydd cymunedol, digwyddiadau cymdeithasol a rhwydweithio busnes, a pharhau i fod yn rym ym myd chwaraeon Gogledd Cymru, rydym yn eich gwahodd i ddod yn aelod a / neu logi'r clwb.