Llogi'r Clwb
Grwpiau cymunedol yn MBCC
Cyswllt allweddol: Ash Wood
Cysylltwch â ffôn symudol : 07766 55 2538
E-bost: info@menaibridgecricketclub.com
Mae Clwb Crcied Porthaethwy wedi cael ei chynnwys yn y llyfr 'Remarkable Village Cricket Grounds', yn rhannol oherwydd y tiroedd hyfryd a'r golygfeydd godidog o'r Wyddfa a'r Fenai. Am y rheswm hwn, mae llawer o grwpiau cymunedol eisoes yn defnyddio'r cyfleusterau dan do ac awyr agored.
Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored ar dir sy'n cael ei gynnal a chadw'n dda, a gellir defnyddio'r cyfleusterau dan do ar gyfer newid, gweithgareddau, cyfarfodydd a chymdeithasu. Beth bynnag yw anghenion eich grŵp cymunedol, gallwn ddarparu ar eich cyfer.
Gyda'r cyfleusterau dan do newydd eu gwella yn y clwb, mae CCP wedi dod yn lleoliad deniadol iawn i grwpiau cymunedol eu defnyddio. Dyma beth fyddwch chi'n ei ddarganfod:
- Man amlbwrpas y gellir ei rannu ar gyfer grwpiau bach, a hyd at 100 o seddau ar gyfer digwyddiad neu barti bwyta ffurfiol.
- Ardal bar/te/coffi/diodydd â stoc dda, lolfa, ciniawa achlysurol, teras awyr agored 25m, ynghyd â mannau cyfarfod anffurfiol a ffurfiol.
- Toiledau, cawodydd ac ystafelloedd gwisgo ar wahân i ddynion, merched ac anabl.
- Mynediad rhwydd ac addas i'w ddefnyddio i’r anabl (tu fewn a thu allan i’r clwb) o’r maes parcio AM DDIM hyd at y teras.
- Cegin fasnachol fodern gyda llawer o le paratoi, lle i oeri a choginio, llestri bwrdd, mannau gweini a hunanarlwyo neu opsiynau ar gyfer arlwyo.
Os hoffech ymweld â'r maes, gweld y cyfleusterau modern a hcroesawgar, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.