Criced Iau All Stars
CRICED 'ALL STARS' (5-8 oed)
Prif gyswllt: Robbie Jones
Ffôn symudol cyswllt: 07876 792 004
E-bost: robbiejones25@hotmail.co.uk
Pryd: Dydd Gwener 17.30 i 18.15 (Mai i Awst)
Gwybodaeth am y Rhaglen 'All Stars'
Mae Rhaglen yr 'All Stars' yn darparu profiad gwych i bob plentyn 5-8 oed, lle byddan nhw'n cael Haf llawn hwyl, gweithgareddau a datblygu sgiliau. Cynlluniwyd y rhaglen i gyflwyno plant i griced, gan ddysgu sgiliau newydd iddynt, eu helpu i wneud ffrindiau newydd a chael amser gwych yn gwneud hynny. Cefnogir y rhaglen gan hyfforddwyr profiadol a brwdfrydig clwb criced Porthaethwy. Mae croeso i rieni fwynhau lluniaeth yn y clwb tra bod eu plant yn mwynhau eu sesiynau criced
Bydd pob plentyn sy'n cofrestru yn derbyn crys-t personol gyda'i enw arno. Bydd cyfle i blant i ddysgu sgiliau symud sylfaenol gan gynnwys dal, taflu a batio, gyda pheli meddal a batiau plastig yn cael eu defnyddio yn y sesiynau.
Sut?
Os oes gennych chi ddiddordeb i'ch plentyn gymryd rhan yn y rhaglen, cofrestrwch yma . (Bydd y linc hwn yn fyw yn dilyn gwyliau'r Pasg, ar gyfer y tymor newydd).
Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Robbie Jones gan ddefnyddio’r manylion uchod, ac/neu edrychwch ar y wybodaeth am All Stars ar wefan Criced Cymru