Cymerwch Ran

Cyswllt allweddol: Robbie Jones
Ffôn symudol cyswllt: 07876 792 004
E-bost: robbiejones25@hotmail.co.uk OR info@menaibridgecricketclub.com

Cyfleoedd Criced
Mae gwirfoddoli wrth galon ein clwb ac mae llawer o ffyrdd o gymryd rhan, os oes gennych chi ychydig neu lawer o amser i'w roi.

Sgorio
Os hoffech chi ymwneud â thîm ond byddai'n well gennych beidio â chwarae, beth am fynd ati i  sgorio i un o'n timau? Rhoddir hyfforddiant â thâl llawn os oes angen.

Dyfarnu
Os ydych yn gyn-chwaraewr neu wedi dyfarnu yn y gorffennol ac yn dymuno cymryd rhan, yna cysylltwch os gwelwch yn dda. Rhoddir hyfforddiant â thâl llawn os oes angen.

Hyfforddi
Rydym bob amser yn chwilio am hyfforddwyr, yn enwedig ar gyfer y timau iau a merched. Mae profiad yn ddymunol ond nid yn hanfodol gan fod yr hyfforddi yn dechrau gyda'r sgiliau sylfaenol ar gyfer y timau iau. Rhoddir hyfforddiant â thelir costau sydd ynghlwm ag unrhyw  gymwysterau hyfforddi os ofynnol. Mae angen gwiriad DBS.

Cynnal a chadw tir
Mae cynnal a gwella'r tiroedd yn waith diddiwedd, felly os oes gennych chi awr neu fwy felly yn rhydd, ac yn dymuno helpu, rhowch wybod i ni. Mae gennym bob math o offer, felly nid oes angen i chi ddarparu offer.

Gwirfoddoli cyffredinol
Fel clwb gwirfoddol, mae amrywiaeth eang o ffyrdd eraill o helpu. Os oes gennych unrhyw amser yn rhydd ac yn teimlo bod gennych sgiliau i'w cynnig, yna cysylltwch â ni.

Gwaith cyflogedig a chyfleoedd gwaith

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwaith cyflogedig neu wirfoddol ym mhrif gyfleusterau’r clwb, y bar, y lolfa a’r ardal fwyta, dyma’r manylion cyswllt:

Cyswllt allweddol: Rheolwr Lleoliad, Ash Wood

Ffôn symudol cyswllt: 07766 55 2538

E-bost: info@menaibridgecricketclub.com