Clybiau Chwaraeon
Cyswllt allweddol: Rheolwr Lleoliad, Ash Wood
Ffôn symudol cyswllt: 07766 55 2538
E-bost: info@menaibridgecricketclub.com
Mae Clwb Criced Porthaethwy wedi ei gynnwys yn y llyfr 'Remarkable Village Cricket Grounds', yn rhannol oherwydd y tiroedd hyfryd a golygfeydd godidog o'r Wyddfa a'r Fenai. Am y rheswm hwn, mae llawer o glybiau chwaraeon eisoes yn defnyddio'r cyfleusterau dan do ac awyr agored, pan nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer criced.
Gellir cynnal ystod lawn o chwaraeon awyr agored ar y tir sydd wedi'i gynnal a'i gadw'n dda, sy'n hawdd ei gyrraedd ac mae'r cyfleusterau dan do ar gael ar gyfer newid, gweithgareddau, cyfarfodydd, bwyd, diodydd a chymdeithasu.
Beth bynnag sydd ei angen ar eich clwb chwaraeon, gall Clwb Criced Porthaethwy ddarparu ar eich cyfer.
Gyda'r cyfleusterau dan do ac awyr agored newydd eu gwella ar y maes, mae CCP yn lle deniadol iawn i glybiau chwaraeon ei ddefnyddio.
Os ydych yn glwb chwaraeon lleol, os hoffech ymweld neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio ein cyfleusterau, defnyddiwch y manylion cyswllt uchod.